Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Mai 2017

Amser: 09.03 - 10.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4138


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mike Hedges AC (Cadeirydd)

Gareth Bennett AC

Janet Finch-Saunders AC

Neil McEvoy AC

Tystion:

Luke Collins- Hayes, Deffo

Zoe Pallenson, Deffo

Cathie Robins-Talbot, Deffo

Helen Robins-Talbot, Deffo

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc)

Kath Thomas (Dirprwy Glerc)

Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

 

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 513KB) Gweld fel HTML (204KB)

 

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Mynegodd Neil McEvoy AC bryderon ynghylch neges ar y cyfryngau cymdeithasol gan Carl Sargeant AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant) yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 9 Mai 2017. Dywedodd y Cadeirydd y gall y Pwyllgor ddychwelyd at y mater hwn pan fydd y ddeiseb dan sylw (P-05-751 Cydnabod Achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant) yn cael ei thrafod y tro nesaf.

 

</AI2>

<AI3>

2       Deisebau newydd

</AI3>

<AI4>

2.1   P-05-749 Adfer Gwasanaeth Deintyddol Symudol Corwen

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb y deisebwyr i'r wybodaeth sydd wedi dod i law cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach i'w cymryd.

 

</AI4>

<AI5>

2.2   P-05-753 Cryfhau'r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i rannu'r sylwadau a wnaed gan y deisebydd ac i ofyn am ymateb pellach iddynt.

 

 

</AI5>

<AI6>

2.3   P-05-755 Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Trelales, Broadlands a Merthyr Mawr yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i roi gwybod iddynt am y ddeiseb a'r ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith; ac

·         aros i glywed barn y deisebydd cyn penderfynu ar gamau gweithredu priodol.

 

 

</AI6>

<AI7>

2.4   P-05-756 Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         gwahodd y deisebydd i roi tystiolaeth ar lafar i'r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol; ac

·         ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl ar y ddeiseb hon cyn toriad yr haf.

 

</AI7>

<AI8>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI8>

<AI9>

3.1   P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i rannu sylwadau a wnaed gan y deisebydd a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y ffordd y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta yn 2017-18 yn cael ei ddefnyddio.

 

</AI9>

<AI10>

3.2   P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd cyn penderfynu ar unrhyw gamau priodol i'w cymryd.

 

</AI10>

<AI11>

3.3   P-05-718 Cyflogau GIG Cymru

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd nid yw'n bosibl ei dwyn ymlaen yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd.

 

</AI11>

<AI12>

3.4   P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i dynnu sylw at y pryderon a chynigion ar gyfer gwella a wnaed gan y deisebydd a Hafal, ac i ofyn am ragor o wybodaeth am y cynlluniau i wella ymatebolrwydd gwasanaethau.

 

</AI12>

<AI13>

3.5   P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach

 

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd nid yw'n bosibl ei dwyn ymlaen yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd.

 

</AI13>

<AI14>

3.6   P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb. Oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers i'r Pwyllgor Deisebau blaenorol glywed tystiolaeth ar y mater hwn, cytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn barn bresennol y Llywodraeth ar y materion a godwyd gan y deisebydd.

 

</AI14>

<AI15>

3.7   P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y ddeiseb ochr yn ochr â'r ddeiseb gysylltiedig, P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn ystod Tymor yr Ysgol, yn y dyfodol.

 

</AI15>

<AI16>

3.8   P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith wedi cadarnhau na fydd Llywodraeth Cymru yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r broses y tu ôl i'r gwaith o ail-ddatblygu'r Gyfnewidfa Lo.

 

</AI16>

<AI17>

3.9   P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan–Y Fenni

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i rannu sylwadau a wnaed gan y deisebwyr a Nick Ramsay AC, a gofyn pam nad yw ymrwymiadau blaenorol i arwynebu'r A40 heb eu gweithredu eto a gofyn am amserlen ar gyfer y gwelliannau hyn.

 

</AI17>

<AI18>

3.10P-05-737 Achubwch ein Bws

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ar yr ohebiaeth a gafwyd hyd yma, ac i ysgrifennu at Stagecoach i ofyn am wybodaeth am ganlyniadau'r arolwg a gynhaliwyd ar y gwasanaeth yn gynharach yn 2017.

 

 

</AI18>

<AI19>

3.11P-04-683 Coed mewn Trefi

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau gweithredu a ganlyn:

·         Ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn pa gynnydd mewn gorchudd coed mewn ardaloedd trefol sydd wedi'i gyflawni yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac a yw rhywogaethau eraill o blanhigion hefyd yn cael eu defnyddio at ddiben tebyg; a

·         gofyn barn y deisebwyr ar yr ymateb a gafwyd.

 

</AI19>

<AI20>

3.12P-04-687 Adolygiad o Bysgota Cregyn Bylchog ym Mae Ceredigion

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         nodi boddhad eang y deisebydd, gan gytuno i gau'r ddeiseb ac i rannu sylwadau ychwanegol y deisebydd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

 

</AI20>

<AI21>

3.13P-05-733 Dim camau pellach o gwbl mewn perthynas â Pharthau Perygl Nitradau yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i aros am gyhoeddiad ar y camau gweithredu nesaf gan Lywodraeth Cymru yn dilyn yr ymgynghoriad, fel y cytunwyd yn flaenorol.

 

</AI21>

<AI22>

3.14P-05-711 Sicrhau bod Anghenion Pobl Anabl am Addasiadau i Dai yn cael eu Diwallu’n Ddigonol

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn eu barn ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

 

</AI22>

<AI23>

4       Sesiwn dystiolaeth – P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb

 

Bu Cathie Robins-Talbot, Helen Robins-Talbot, Luke Collins-Hayes a Zoe Pallenson o Deffo! yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

 

</AI23>

<AI24>

5       Papur i'w nodi – Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i roi gwybod i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am unrhyw ddeisebau yn y dyfodol sy'n berthnasol i'w waith ynghylch y Papur Gwyn ar Fil y Diddymu Mawr.

 

</AI24>

<AI25>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI25>

<AI26>

7       Trafod y dystiolaeth: P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

Trafododd y Pwyllgor y camau nesaf i'w cymryd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i lunio adroddiad i'r Cynulliad ar y dystiolaeth a gafwyd.

 

 

</AI26>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>